Cofrestriad Syndyn Quick Registration

Amdanom Ni

Mae A465.com yn wefan i bawb sy’n byw, gweithio neu ddysgu ym Mlaenau’r Cymoedd. Mae wedi ei chynllunio i roi’r manylion diweddaraf i chi am y newidiadau sy’n digwydd yn narpariaeth addysg yr ardal.

Mae A456.com yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Coleg Gwent, Coleg Merthyr, Prifysgol Casnewydd, Prifysgol Morgannwg a UHOVI (Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd). Mae’n rhan o strategaeth 15 mlynedd a ddatblygwyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol ar gyfer ardal Blaenau’r Cymoedd. Y nod yw y daw Blaenau’r Cymoedd yn rhwydwaith gyfoethog a dynamig o gymunedau a fydd yn gymorth i yrru llwyddiant de ddwyrain Cymru.

Strategaeth adfywio dros gyfnod o 15 mlynedd yw Rhaglen Blaenau'r Cymoedd sy'n cael ei datblygu mewn partneriaeth lawn â phum awdurdod lleol, (Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen), a rhanddeiliaid lleol eraill er mwyn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol anweithgarwch economaidd a materion eraill yn yr ardal yng nghyd-destun Cynllun Gofodol Cymru. 

Pwy sy'n ymwneud â hyn?